Landscape                                                                                                                              

 

DATGANIAD I’R WASG

 

Newid ei angen i fynd i'r afael â gor-ragnodi meddyginiaethau yng Nghymru, meddai un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

 

Nid oes digon yn cael ei wneud i herio'r modd y caiff meddyginiaethau eu gor-ragnodi yng Nghymru, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

 

Clywodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y cafwyd cynnydd o 46 y cant yn nifer yr eitemau a ddosberthir gan feddygon yn y deng mlynedd diwethaf. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod cost rhagnodi meddyginiaethau yng Nghymru oddeutu £800 miliwn y flwyddyn mewn gofal sylfaenol yn unig, neu fwy na deg y cant o gyfanswm cyllideb GIG Cymru.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod cymaint â hanner holl dderbyniadau ysbyty yn ymwneud â meddyginiaethau o bosibl, lle bo cleifion naill wedi cael y feddyginiaeth anghywir wedi'i rhagnodi iddynt, neu, yn fwy tebygol, fod wedi cymryd y dos anghywir.

 

Fodd bynnag, ni chaiff derbyniadau sy'n ymwneud â meddyginiaethau eu cofnodi ac felly nid oes ffordd o bennu maint gwirioneddol y broblem hon.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn annog dull mwy pwyllog o ragnodi meddyginiaethau, ac mae'n rhoi cymorth er mwyn i fferyllwyr gael eu defnyddio'n fwy i ddarparu gofal sylfaenol.

 

Canfuodd y Pwyllgor, fodd bynnag, â fferyllwyr yn cynnal 1,000 o ymgynghoriadau y mis, nad oedd hynny ond yn hafal i 250 yr wythnos ar draws y wlad.

 

Clywodd y Pwyllgor hefyd nad yw fferyllwyr clwstwr yn gallu cynllunio’n strategol gan nad yw’r cyllid ar sail hirdymor, ac roedd tensiynau rhwng meddygon teulu a fferyllwyr ynghylch faint o werth y gall fferyllwyr annibynnol ei ychwanegu.

 

Ystyriwyd y defnydd a wneir o dechnoleg hefyd fel ffordd o wella'r modd y rheolir meddyginiaethau. Gofynnodd y Pwyllgor am y wybodaeth ddiweddaraf am dreial dosbarthu meddyginiaethau'n awtomatig mewn wardiau ysbyty, yr oedd disgwyl iddo gael ei gwblhau y llynedd. Mynegwyd pryderon hefyd am system TG e-ragnodi newydd ledled y wlad yr amharwyd arni gan oedi ac sydd wedi cael adolygiadau cymysg mewn ardaloedd sydd wedi cyflwyno'r system honno.

 

“Mae mater rheoli meddyginiaethau yn berthnasol i bawb, o feddygon teulu, staff meddygol mewn ysbytai, fferyllwyr, a chleifion,” meddai Nick Ramsay AC, Cadeirydd y y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

 

“Mae pob un ohonom yn gyfrifol am sicrhau na chaiff meddyginiaethau eu gwastraffu neu eu dosbarthu yn ddiangen.

 

“Mae pob aelod o’r Pwyllgor wedi cael profiadau o berthnasau neu ffrindiau neu etholwyr â chypyrddau meddyginiaeth yn llawn meddyginiaethau ac yn cael anawsterau yn tynnu eitemau oddi ar bresgripsiynau amlroddadwy.

 

“Yr hyn a ganfuwyd gennym yn ystod yr ymchwiliad hwn oedd system sydd angen ei newid a system nad yw’n gallu manteisio i’r eithaf ar ei botensial.”

 

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 17 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:

 

-     Bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyfarwyddeb genedlaethol a bod angen i bob Bwrdd Iechyd ddatblygu ymgyrchoedd i godi proffil rheoli meddyginiaethau;

-     Bod Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i ffyrdd o harneisio’r arbenigedd academaidd yng Nghymru i ddeall graddfa Derbyniadau sy’n Gysylltiedig â Meddyginiaeth a sut i’w lleihau; a

-     Fel rhan o waith comisiynu a chyflwyno system e-ragnodi newydd Llywodraeth Cymru, ei bod yn datblygu cynllun gweithredu ategol i helpu i gyflawni’r newid diwylliannol sydd ei angen i gyd-fynd â chyflwyno system newydd.

 

Bydd canfyddiadau'r Pwyllgor yn cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru.

 

Nodiadau i olygyddion

 

I gael rhagor o wybodaeth, neu i wneud cais am gyfweliadau, lluniau neu gyfleoedd ffilmio, cysylltwch â gwasanaeth cyswllt â'r cyfryngau y Cynulliad Cenedlaethol ar 0300 200 7487, neu anfonwch neges e-bost at alex.feeney@cynulliad.cymru.

 

 

facebook twitter flickrClean_YouTube_Icon_by_TheSuperPup